Amethyst yw’r Ganolfan Atgyfeirio Dioddefwyr Troseddau Rhywiol (SARC) ar gyfer Gogledd Cymru.
Mae Amethyst yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol i ddynion, merched a phlant a ymosodwyd arnynt yn rhywiol un ai’n ddiweddar neu yn y gorffennol.
Gallwn eich darparu â:
- Gwybodaeth ar eich opsiynau os ydych wedi cael eich treisio neu eich ymosod arnoch yn rhywiol.
- Cyngor a chymorth gyda riportio’r achos i’r Heddlu
- Gwybodaeth a chymorth os nad ydych yn riportio’r achos i’r Heddlu
- Cyngor / Apwyntiad Iechyd Rhyw – mwy o wybodaeth
- Atal Genhedlu Brys
- Cyngor am Hepatitis a’r haint HIV
- Atgyfeiriad ar gyfer cymorth a chwnsela
Mae ein staff a’n cydweithwyr yn unigolion proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel ac sydd yma i’ch cefnogi chi.
Ffoniwch 0808 156 3658 er mwyn siarad â gweithiwr argyfwng.
Mae Amethyst yn fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a grwpiau gwirfoddol.